Dosbarth Gwau


Dosbarth Gwau

 

 

 

Erthygl gan Mairwen ar ddechreuad y dosbarth gwau - 2011

Mae Dydd Iau yng Nghalfaria, Penygroes, Sir Gaerfyrddin yn ddiwrnod prysur. Yn y bore cynhelir Oedfa Weddi sy'n agored i bawb, yn ferched a dynion. Yn y prynhawn wedyn daw merched ynghyd i'r dosbarth gwau. Dechreuodd y dosbarth gwau tua deunaw mis yn ôl a hynny oherwydd afiechyd fy chwaer yng nghyfraith, Margaret Williams, a fu am flynyddoedd yn brysur yn gwau ar gyfer plant yn Rwmania. Teimlais fod Duw yn fy arwain i ddod â'r merched at ei gilydd i barhau â 'r gwaith da a gyflawnodd Margaret. Erbyn hyn mae 14 o ferched yn perthyn i'r dosbarth ac yn brysur yn gwau siwmperi, blancedi, capiau, sgarffiau, tedis a dillad babanod. Daeth Mr Gwenallt Rees a'i briod atom un noson ym mis Hydref i dderbyn ffrwyth ein llafur. Yr oedd y ddau wedi rhyfeddu at yr holl eitemau lliwgar oedd wedi'u harddangos ar draws ac ar hyd y capel. Dyma dystiolaeth Mr. Rees:

"Wrth gerdded i mewn i'r capel cawsom ein llorio gan yr olygfa oedd o'n blaen ni. Roedd yn wledd i'r llygad oherwydd roedd yr holl ddillad a wnaethpwyd gan y chwiorydd wedi'u harddangos yn ofalus o gwmpas y capel (yn flancedi, hetiau i fabanod, cardiganau, sgidie, teganau....) - ar y pulpud, y pileri, y sedd fawr, o gwmpas yr oriel...... !!!!! Roedd yn olygfa anhygoel a bythgofiadwy i weld y degau ar ben degau o eitemau lliwgar o'r safon uchaf yn addurno'r capel. Mae ein gwerthfawrogiad o ddoniau, amser, a llafur cariad pawb a fu wrthi yn ddi-fesur”

Gan fod Mr a Mrs Rees yn teithio i Lesotho ym mis Chwefror roedd yn gyfle iddynt anfon y gwaith a bod yn Lesotho i weld ei fod wedi cyrraedd yn ddiogel a sylwi ar werthfawrogiad y bobl.

“Pan aethon ni allan, fe welson ni'r dillad wedi'u hail bacio'n barod i fynd i gyfeiriadau gwahanol - sef i garchardai, ysbytai, ac i gartrefi i blant amddifad. Roedd yn brofiad hyfryd i weld yr union ddillad oedd yn hongian yn Eglwys Calfaria wedi cyrraedd pen eu taith ac yn awr yn nwylo chwiorydd Eglwys Sefika i'w dosbarthu i'r anghenus !”

Eleni hefyd rydym wedi casglu £300 i anfon 60 o Feiblau i Rwmania a'r Pasg yma anfonwyd 745 wyau Pasg yno. Nid y gwaith a wneir gan aelodau'r dosbarth yw unig bwrpas dod ynghyd. Trwy gyfarfod ein gilydd dros baned fel hyn ar brynhawn Iau, down i adnabod ein gilydd yn well a down i rannu helyntion, pryderon a llawenydd ein cyd-aelodau.

Mairwen Jones

Digwyddiadau i ddod