Datganiad Ffydd

  1. Credwn yn yr unig gwir a bywiol Dduw, yn Drindod Sanctaidd o dri Pherson, y Tad, y Mab a’r Ysbryd Glân.
  2. Credwn yn yr Arglwydd Iesu Grist, Mab Duw. Yn wir Dduw a gwir ddyn, credwn yn ei genhedlu gwyrthiol, yn ei fywyd perffaith ac iddo farw ar y groes yn ein lle.
  3. Credwn fod Iesu’n fyw ac yn Arglwydd y nef ac yn rhoi bywyd tragwyddol i bob un sy’n credu ynddo.
  4. Credwn fod yr Ysbryd Glân yn agor meddyliau pobl i weld eu drwg a derbyn maddeuant yng Nghrist. Mae’r Ysbryd Glân yn dod i fyw i galon pob Cristion.
  5. Credwn yn y Beibl, gair cywir Duw, sy’n goleuo ein ffydd a’n ffordd o fyw. Dengys i ni ein hangen o iachawdwriaeth, am Iesu Grist yn Waredwr.
  6. Credwn mai trwy ffydd yn unig yn yr Arglwydd Iesu Grist y mae derbyn iachawdwriaeth Duw a bod yn iawn o’i flaen.
  7. Credwn fod aelodaeth o’r eglwys leol yn bwysig. Bwriad Duw yw bod yr eglwys yn ganolfan addoliad, addysg, gweddi, gwasanaeth a chenhadaeth.
  8. Credwn y daw’r Arglwydd Iesu Grist yn ôl yn bersonol, yn weladwy ac yn ogoneddus i’r ddaear.

Digwyddiadau i ddod